Canlyniadau Chwilio - Strabo.
Strabo
Daearyddwr Groegaidd oedd Strabo (c. 64 CC - c. 19 OC). Roedd yn enedigol o Amaseia, Pontus, yn Asia Leiaf, a flodeuai yn amser yr ymerawdwyr Cesar Awgwstws a TiberiwsGanwyd Strabo yn fab i rieni gweddol dda eu byd yn Amaseia, yn Pontus, hen dalaith Roeg yn Asia Leiaf a oedd erbyn hynny'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Astudiodd yn gyntaf dan diwtoriaeth yr athronydd crwydr (''peripatetig'') Xenarchus (fl. diwedd y 1af ganrif CC). Fel ei athro roedd yn arddel Stoïciaeth, athroniaeth y Stoïciaid. Ar ôl gorffen ei addysg ymroddodd i astudiaethau hanes a daearyddiaeth. Teithiodd yn eang gan ymweld â rhan helaeth o Asia Leiaf, yr Aifft hyd at gyffiniau Ethiopia, sawl ardal yng Ngwlad Groeg, a hefyd yr Eidal, gan gynnwys y brifddinas Rhufain. Gyda'i raglaenydd Ptolemi mae Strabo yn cael ei ystyried yn dad Daearyddiaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys llyfr hanes pwysig mewn 47 llyfr, a oedd yn parhad o waith Polybius o'r 5ed llyfr ymlaen; darnau a dyfyniadau yn unig sydd wedi goroesi. Dim ond ei ''Γεωγραφικά'' (''Geographica'', "Daearyddiaeth") sydd wedi goroesi'n destun gweddol gyflawn. Yn ffodus y llyfr hwnnw yw ei gampwaith. Darparwyd gan Wikipedia